Datganiad Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd i wefan Expo Busnes Cymru
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Expo Busnes Cymru.
https://www.businesswalesexpo.wales/
Defnyddio’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Production78. Hoffem i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
newid lliwiau, lefelau'r cyferbyniad a ffontiau
chwyddo'r dudalen hyd at 400% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:
· Nid oes gan rai tudalennau bennawd lefel gyntaf
· Mae gan rai delweddau destun annigonol neu destun amgen aneglur
· Mae diffyg labeli mewn rhai meysydd ffurflen, sy’n eu gwneud yn llai hygyrch
Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, braille, Iaith Arwyddion Prydain, print mawr, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain:
Bydd angen ichi ddweud wrthym:
cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y byddwch ei hangen
eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
y fformat yr hoffech ei dderbyn - er enghraifft, testun plaen, braille, Iaith Arwyddion Prydain, print mawr neu gryno ddisg sain
pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’i dudalen. Dewiswch ‘Gwneud cais am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn dychwelyd atoch ymhen 7 diwrnod gwaith.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os fyddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os nad ydych yn meddwl ein bod yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd isod:
Bydd angen ichi ddweud wrthym:
cyfeiriad gwe (URL) y dudalen lle nad ydych yn meddwl ein bod yn bodloni gofynion hygyrchedd
pam nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd yn eich barn chi
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn dychwelyd atoch ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda sut y gwnaethom ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy ymweld â ni wyneb yn wyneb
Mae Ofcom yn gofyn i bob cwmni llinell dir a ffonau symudol ddarparu nifer o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid gydag anableddau. Gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun o’ch dewis chi i gysylltu â Busnes Cymru.
Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd isod:
Bydd angen ichi ddweud wrthym:
pwy ydych chi
sut y gallwn eich helpu
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn dychwelyd atoch ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Pennawd lefel gyntaf ar goll: Nid oes gan rai tudalennau bennawd lefel gyntaf (<h1>) ac nid yw hyn yn bodloni Meini Prawf Llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 AA (Penawdau a Labeli) ac 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd), sy’n hanfodol ar gyfer llywio a strwythur y ddogfen. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn 01/07/2025
Testun amgen amheus: Mae testun amgen yn debygol o fod yn annigonol neu’n cynnwys gwybodaeth amherthnasol, nad yw'n bodloni Meini Prawf Llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 A (Cynnwys nad yw’n destun). Os nad yw testun amgen yn cyfleu cynnwys y llun yn gywir, mae defnyddiwr darllenydd sgrin a'r rheiny nad oes ganddynt luniau yn colli gwybodaeth hanfodol. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn 01/07/2025
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Mae’r technolegau a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Label ar goll o’r ffurflen: Mae diffyg labeli cyfatebol mewn rhai o’r rheolwyr ffurflen, ac nid yw hyn yn bodloni Meini Prawf Llwyddiant 3.3.2 WCAG 2.2 A (Labeli neu Gyfarwyddiadau) ac 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd. Heb label testun cysylltiedig cywir, efallai na fydd darllenwyr sgrin yn deall swyddogaeth neu bwrpas y maes mewnbwn. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn 01/07/2025
PDFs a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi i gyrchu ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Os oes angen mynediad arnoch i PDF neu ddogfen arall ar ein gwefan, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy un o’r ffyrdd isod a gofyn am fformat amgen.
Bydd angen ichi ddweud wrthym:
cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth fydd ei hangen arnoch
y fformat yr hoffech ei dderbyn
pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn dychwelyd atoch ymhen 7 diwrnod gwaith.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 19 Mai 2025 i ddisodli'r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 19 Mai 2025.
Sut y gwnaethom brofi’r wefan
Profwyd y wefan ddiwethaf ar 19 Mai 2025. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan dîm Sicrhau Ansawdd Busnes Cymru.
Gwnaethom ddefnyddio Wave a Google Lighthouse i sganio pob tudalen o'r wefan Expo Busnes Cymru.