
Beth sydd ymlaen
Agenda Siaradwr
Bwyd a diod o Gymru a’r sector cyhoeddus.
9:30 yb
-
10:00 yb
Ystafell Seminar
Deall llwybrau cyflenwi a gofynion cyflenwi bwyd a diod i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.
Myrddin Davies - Food and Farming Consultant, David Wylie - Food Lead at Menter Môn
Platfform Digidol Canolog a Sut i Ganfod, Gwneud Cynigion ac Ennill Contractau’r Sector Cyhoeddus
10:00 yb
-
10:30 yb
Ystafell Seminar
Ymunwch â ni am daith wib o amgylch llu o adnoddau a chymorth sydd wedi’u hariannu’n llawn sydd ar gael i’ch helpu i dyfu eich busnes ac ennill contractau, a ddarperir gan Fusnes Cymru a GwerthwchiGymru.
Tristian Jones - Sell2Wales Officer Welsh Government , Howard Jacobson - Business Wales Supply Chain Manager
Llywodraeth Cymru: Cefnogi Busnesau Bach a Chanolig drwy Gaffael Mwy Doeth
10:30 yb
-
11:00 yb
Ystafell Seminar
Dysgwch sut mae Llywodraeth Cymru yn ail-lunio caffael cyhoeddus i agor rhagor o ddrysau i fusnesau bach a chanolig ac yn gwneud y broses o sicrhau contractau Llywodraeth Cymru yn haws. Dysgwch sut mae caffael cyfrifol cyhoeddus yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau lleol gyflawni gwerth cymdeithasol a budd cymunedol uwch.
Mae’r sesiwn hon yn angenrheidiol i fusnesau bach a chanolig sy’n dymuno tyfu drwy gontractau’r sector cyhoeddus - ac i unrhyw un sydd eisiau deall sut mae polisi datblygol yn arwain newid cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.
Carl Thomas - Implementation and Governance Lead Welsh Government
Prif anerchiad: Yr Economi Sylfaenol a Gefnogir gan Gadwyni Cyflenwi Lleol, Cryf
11:00 yb
-
11:45 yb
Prif Lwyfan
Bydd Busnes Cymru yn cau’r sesiwn, gan dynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer digwyddiadau, cymorth busnes, a chyfeiriadau arbennig.
Nick Sullivan Pennaeth Rhaglen Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru Head of Welsh Government’s Foundational Economy Programme, Howard Jacobson - Business Wales Supply Chain Manager, Rheolwr Cadwyn Gyflenwi Busnes Cymru
Y Raddfa Bresennol a Llwybr Dyfodol Datgarboneiddio Tai a Rhaglenni Cefnogi
0:00 yh
-
0:30 yh
Ystafell Seminar
Dysgwch sut mae datgarboneiddio tai yn llywio cyfleoedd y dyfodol yng Nghymru. Bydd y sesiwn hon yn amlinellu graddfa’r gwaith a drefnwyd, blaenoriaethau sydd ar y gweill, a’r rhaglenni sy’n arwain y galw am wasanaethau a chynhyrchion arloesol. Enillwch ddealltwriaeth o ble mae’r angen mwyaf am arbenigedd ar y gadwyn gyflenwi a sut all cyflenwyr roi eu hunain mewn sefyllfa i fodloni’r gofynion sy’n codi.
Malcolm Davies - Senior Programme Manager Housing Quality Division, Welsh Government
Datgloi Cyfleoedd: Gweithio gyda GIG Cymru ac egluro caffael cynaliadwy
0:30 yh
-
1:00 yh
Ystafell Seminar
Ymunwch â Phartneriaeth Cydwasanaethau y GIG wrth i ni ddarparu trosolwg o’r llwybrau caffael a ddefnyddir ar draws GIG Cymru, gan gynnwys sut i gyrchu gwybodaeth hanfodol drwy ein pyrth tendro ar-lein. Byddwn yn rhannu ein gweledigaeth a’n strategaeth ar gyfer caffael cynaliadwy i’r dyfodol. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnig arweiniad ar sut y gall cyflenwyr fod yn fwy effeithiol wrth sicrhau contractau a chydfynd ag anghenion esblygol barhaus y GIG.
Daniel Gregory - Foundational Economy Manager
Y Dyfodol a Chyfleoedd Cydgynnig yng Nghymru: Trafodaeth Panel Prynwyr
1:00 yh
-
2:00 yh
Prif Lwyfan
Mae cydgynnig a chydweithio yn cynnig llwybr grymus i gyflenwyr o Gymru sicrhau contractau mwy a gwerth uwch a fyddai fel arall o bosib allan o bob gafael.
Dewch i ymuno â ni am y drafodaeth banel hon ar ddyfodol cydgynnig, lle byddwn yn rhoi trosolwg cyflym ichi o sut mae’n gweithio a byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan banel o brif brynwyr ynghylch y cyfleoedd y gall greu.
Panellists: Stefan Iles Uwch Rheolwr y Gadwyn Gyflenwi yn Trafnidiaeth Cymru Paul Griffiths Pennaeth Cyflawni Caffael Llywodraeth Cymru Sion Hughes Cyfarwyddwr Polisi a Chyflawni yn Adra, Richard Fraser-Williams Busnes Cymru / Menter Môn Morlais Cyf
Host: Professor Jane Lynch - Director of the Centre of Public Value Procurement at Cardiff University, Cyfarwyddwr Canolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd
Parth Arddangoswyr
Bydd ein parth arddangoswyr yn arddangos rhai o brynwyr mwyaf y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyd at 80 o arddangoswyr yn bresennol ym mhob digwyddiad, yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau sector cyhoeddus, ac arweinwyr ym maes adeiladu, gofal iechyd, trafnidiaeth, ynni, sefydliadau cymorth, a mwy. Bydd rhestr lawn o arddangoswyr a darparwyr cymorth yn cael ei chyhoeddi'n fuan ar y wefan hon, ynghyd â phroffiliau neilltuedig a chyfleoedd arfaethedig byw.
Parth Cymorth
Yn ogystal, bydd seminarau a sgyrsiau gan bobl amlwg ym maes caffael a chymorth yn cael eu cynnal yn ein Parthau Cymorth, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r GIG, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Sell2Wales, Cwmpas, ac arweinwyr eraill mewn ymarfer caffael a chadwyn gyflenwi. Bydd agenda lawn ar gael cyn bo hir.
Arddangoswyr
Enghreifftiau o brynwyr a sefydliadau cefnogol fydd yn mynychu










