Croeso i
Expo
Busnes Cymru
Cyfres newydd o ddigwyddiadau gan Busnes Cymru, yn cefnogi'r Economi Sylfaenol yng Nghymru
10.09.2024 Arena Abertawe
02.10.2024 Venue Cymru Llandudno
09:00 - 16:00
Pam Ymweld?
Ymunwch â ni ar gyfer Expo Busnes Cymru chwyldroadol, rhad ac am ddim i’w fynychu, lle byddwch yn cael cyfle unigryw i gymryd rhan mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb un-i-un gyda sefydliadau blaenllaw Cymru sy’n awyddus i wella eu cadwyni cyflenwi lleol.
Mae'r prynwyr hyn yn chwilio am fusnesau sydd â sgiliau ac arbenigedd fel eich un chi.
Pan fyddwch yn cofrestru i fynychu, byddwn yn darparu rhestr o arddangoswyr a ddewiswyd yn arbennig i chi sy'n cynnig cyfleoedd sy'n cyd-fynd â'ch set sgiliau.
Economi Sylfaenol
Prynu’n Nes at Adref
Archwiliwch gyfleoedd lleol ar gyfer eich busnes yn ein Harddangosiadau unigryw a gyflwynir gan y tîm Economi Sylfaenol a Busnes Cymru.
Darganfyddwch gyfleoedd byw a phwysigrwydd prynu'n agosach at adref.
Gyda ffocws ar sectorau economi sylfaenol allweddol fel bwyd, gofal cymdeithasol, adeiladu, tai, manwerthu a datgarboneiddio trafnidiaeth, gan gynnwys llawer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig sy'n cyflenwi ac yn darparu ar gyfer y sectorau hyn, mae rhywbeth at ddant pawb.
Cofrestrwch nawr i gysylltu â phrynwyr a chyfleoedd sy'n cyd-fynd â'ch busnes a'ch setiau sgiliau!
Dewch i gael cyfleoedd
newydd i'ch busnes
Dewch i Gwrdd â'r Prynwyr o bob cwr o Gymru sydd â Chyfleoedd Arfaethedig ar eich cyfer...
Bydd ein parth arddangoswyr yn arddangos rhai o brynwyr mwyaf y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyd at 80 o arddangoswyr yn bresennol ym mhob digwyddiad, yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau sector cyhoeddus, ac arweinwyr ym maes adeiladu, gofal iechyd, trafnidiaeth, ynni, sefydliadau cymorth, a mwy. Bydd rhestr lawn o arddangoswyr a darparwyr cymorth yn cael ei chyhoeddi'n fuan ar y wefan hon, ynghyd â phroffiliau neilltuedig a chyfleoedd arfaethedig byw.
Yn ogystal, bydd seminarau a sgyrsiau gan bobl amlwg ym maes caffael a chymorth yn cael eu cynnal yn ein Parthau Cymorth, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r GIG, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Sell2Wales, Cwmpas, ac arweinwyr eraill mewn ymarfer caffael a chadwyn gyflenwi. Bydd agenda lawn ar gael cyn bo hir.
88
Arddangoswyr
847
Cyfleoedd Piblinell
999
Cyfleoedd Piblinell
Arddangoswyr
Enghreifftiau o brynwyr a sefydliadau cefnogol fydd yn mynychu