Cyfarwyddiadau Cod QR
Nid dim ond ar gyfer cael mynediad mae eich côd QR. Dyma eich cerdyn busnes digidol sy’n gadael i chi gyfnewid manylion cyswllt yn syth gydag arddangoswyr a chyd fynychwyr. Wedi i chi fewngofnodi, bydd pob côd y byddwch yn ei sganio’n cael ei gadw’n awtomatig ar eich cyfrif, gan ei gwneud hi’n hawdd i chi gadw golwg ar gysylltiadau newydd a dilyn i fyny wedi’r digwyddiad. Gallwch ei ddefnyddio ym mhob cyfarfod a rhyngweithiad er mwyn tyfu eich rhwydwaith.
Er mwyn dysgu sut mae’n gweithio a gwneud y gorau o’ch profiad, gwyliwch y Fideo Sut i Wneud y Gorau Ohono yma:
Mynychwyr
Gwyliwch y Fideo Sut i Wneud y Gorau Ohono yma:
Cliciwch ar y botwm mewngofnodi ar frig y dudalen.
Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair a ddarparwyd gennych pan gofrestrwyd ar gyfer y digwyddiad.

Ewch i'r dudalen ‘Fy Manylion’
Wrth i chi fewngofnodi i wefan BusinessWalesExpo.Wales mae eich Cod QR personol yn cael ei arddangos. Mae hwn yn unigryw i chi a hwn yw eich tocyn i’r Expo. I gael mynediad i’r digwyddiad neu i unrhyw seminarau cyflwynwch y Cod QR i'r staff wrth y drws a fydd yn ei sganio. Nid oes angen ichi argraffu'r cod hwn ac rydym yn syml yn eich annog i'w arddangos ar sgrîn eich ffôn clyfar.

I rannu eich data personol gydag Arddangoswr
Hwn yw eich cerdyn busnes digidol a bydd yn galluogi defnyddwyr gwefan eraill i weld eich manylion cyswllt personol. Cyflwynwch y Cod QR i’r arddangoswr yr hoffech rannu â nhw fel y gallant ei sganio gyda’u camera.
I sganio Cod QR Arddangoswr
Sicrhewch eich bod yn dal i fod wedi mewngofnodi i’r wefan Expo. Agorwch eich ap camera ar eich ffôn a’i ddal tuag at god QR yr arddangoswr. Cliciwch ar y ddolen a fydd yn ymddangos. Gallwch ychwanegu nodiadau ar y sgrîn hon i’ch helpu i gofio’r arddangoswr hwn a’r rhyngweithiad yn y digwyddiad. Rydych nawr wedi ychwanegu gwybodaeth gyswllt yr Arddangoswr at eich tudalen ‘Fy Manylion’ o dan ’Fy Sganiau’.
Arddangoswyr
Mynychwr? - Cliciwch yma am Gyfarwyddiadau Mynychwr
Mewngofnodwch i BusinessWalesExpo.Wales
Cliciwch ar y botwm mewngofnodi ar waelod y dudalen
Rhowch eich enw defnyddiwr a’r cyfrinair a roesoch wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Ewch i'r dudalen ‘Fy Manylion’
Wrth i chi fewngofnodi i wefan BusinessWalesExpo.Wales mae eich Cod QR personol yn cael ei arddangos. Mae hwn yn unigryw i chi a hwn yw eich tocyn i’r Expo. I gael mynediad i’r digwyddiad neu i unrhyw seminarau cyflwynwch y Cod QR i'r staff wrth y drws a fydd yn ei sganio. Nid oes angen ichi argraffu'r cod hwn ac rydym yn syml yn eich annog i'w arddangos ar sgrîn eich ffôn clyfar.

I rannu eich data personol gyda Mynychwyr
Hwn yw eich cerdyn busnes digidol a bydd yn galluogi defnyddwyr gwefan eraill i weld eich manylion cyswllt personol. Cyflwynwch y Cod QR i’r mynychwyr yr hoffech rannu â nhw fel y gallant ei sganio gyda’u camera.
I sganio Cod QR Mynychwr
Sicrhewch eich bod yn dal i fod wedi mewngofnodi i’r wefan Expo. Agorwch eich ap camera ar eich ffôn a’i ddal tuag at god QR y Mynychwr. Cliciwch ar y ddolen a fydd yn ymddangos. Gallwch ychwanegu nodiadau ar y sgrîn hon i’ch helpu i gofio’r arddangoswr hwn a’r rhyngweithiad yn y digwyddiad. Rydych nawr wedi ychwanegu gwybodaeth gyswllt y Mynychwr at eich tudalen ‘Fy Manylion’ o dan ’Fy Sganiau’.

